




Ysgol Gynradd Gymunedol yw Ysgol Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Ysgol gyd-addysgol lle dysgir y plant mewn dosbarthiadau cymysg aml oed / gallu. Mae dau ddosbarth-Dosbarth Babanod a Dosbarth Iau. Dysgir y plant Meithrin, Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2 yn Nosbarth y Babanod gan un athrawes llawn amser ac un gweinyddes feithrin rhan amser. Dysgir y Dosbarth Iau gan y Pennaeth. Cyflogir athrawesau rhan amser i ddysgu Cerdd, y Dyniaethau a Celf i'r disgyblion
Amcan Ysgol Llanarmon Dyffryn Ceiriog yw sicrhau awyrgylch hapus,positif a diogel lle gall y plant fwynhau addysg ddiddorol,buddiol a chynhwysfawr heb orthrwm. Ein nod yw sicrhau cyd-weithrediad llwyr rhwng y Staff,y Llywodraethwyr,y rhieni a'r gymuned leol er budd y plant. Credwn mai dyma'r unig ffordd i sicrhau fod y disgyblion yn cael amrywiaeth eang o brofiadau gwerthfawr;boed yn addysgol neu'n allgyrsiol fel eu bod yn cyrraedd eu llawn potensial. Gwneir pob ymdrech i greu amgylchedd o ofal yn yr ysgol. Anogir y plant i fod yn ymwybodol nid yn unig ohonynt eu hunain ond o eraill a'r amgylchfyd.